Hen enw ar frodorion Gogledd America a ystyrir bellach yn ddifrïol ac yn dramgwyddus yw Indiaid Cochion (Saesneg: Red Indians) neu groengochiaid[1] (redskins).
Ansicr yw tarddiad yr ymadrodd. Ymddangosodd yn oes y Tair Gwladfa ar Ddeg, o bosib yn gyfieithiad o un o enwau'r brodorion ar eu hunain, neu'n fathiad gan yr Ewropeaid. Nid yw geiriadurwyr ychwaith yn cytuno at beth mae'r "coch" yn cyfeirio: lliw naturiol croen y brodorion, neu'r pigmentau a ddefnyddid gan ambell lwyth i liwio'r croen. Beth bynnag y geirdarddiad, trodd yn air difrïol wrth i'r gwynion ei ddefnyddio mewn modd hiliol yn y 19g a chychwyn yr 20g.[2] Cysylltir yr enw yn hanesyddol â'r gwobrau a gynigir am grwyn pennau'r brodorion.[3]
Ni ddefnyddir yr ymadrodd yn yr oes fodern, ond parheir mewn enwau nifer o dimau chwaraeon, gan gynnwys tîm pêl-droed Americanaidd y Washington Redskins.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search